Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol?Mae gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn cymhwyso y flwyddyn nesaf.Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno cais; byddwn yn gwarantu cyfweliad i chi yn ystod yr wythnosau nesaf, gallwn hyd yn oed ddarparu help ac arweiniad gyda'ch cais a pharatoi ar gyfer cyfweliad. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â ni.Eleni, mae Caerdydd wedi croesawu 19 o Weithwyr Cymdeithasol newydd gymhwyso i'n timau sy'n tyfu.Nid dyna'r cyfan, rydym hefyd yn cynnig y cyfle i chi ymuno â ni fel Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol ar ôl i chi orffen eich lleoliad terfynol wrth i chi aros i'ch cymhwyster ddod drwodd, pam aros, gwnewch gais nawr!Mae angen i bob gweithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso gwblhau'r rhaglen tair blynedd gyntaf o ymarfer fel y'i nodir gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Mae hyn yn orfodol er mwyn parhau i fod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig.Yng Nghaerdydd rydym wedi datblygu rhaglen arloesol a fydd yn rhoi mentor i chi (y tu allan i'ch tîm gwaith) a fydd yn eich helpu i nodi, datblygu a bodloni eich anghenion hyfforddi parhaus a sicrhau eich bod yn barod i symud ymlaen i'r cam nesaf, sef y cwrs cydgrynhoi yn y brifysgol.Caerdydd yw'r unig awdurdod lleol yn Ne Cymru i ddarparu aseswyr ymarfer annibynnol i'ch helpu'ch cynnydd drwy hyn, a sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i gwblhau'r cam hwn o'ch gyrfa yn llwyddiannus.Mae gennym raglen hyfforddi gynhwysfawr ar waith a fydd yn eich galluogi i fanteisio ar yr holl hyfforddiant gorfodol ynghyd â grwpiau cymorth a gynhelir yn rheolaidd i sicrhau bod mewn cysylltiad â gweithwyr eraill sydd newydd gymhwyso!Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru.Mae Caerdydd yn cynnig y cyfle i dyfu a datblygu drwy hyfforddiant o ansawdd uchel, goruchwyliaeth reolaidd ac effeithiol, ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddilyn datblygiad gyrfaol, er enghraifft eleni mae 10 gweithiwr mewnol wedi cynyddu i swyddi uwch o fewn ein timau Gwaith Cymdeithasol.Rydym wedi ailgynllunio ein gwasanaethau i ddilyn taith y plentyn a chreu timau ardal sy'n galluogi gweithwyr i gysylltu'n agos â chymunedau a gwasanaethau lleol. Mae diwylliant iach o ddysgu, cymorth a theulu ar draws ein timau gwaith cymdeithasol anhygoel.Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy'n rhoi'r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae'r timau'n gweithio yn ôl dull sy'n seiliedig ar gryfderau (Arwyddion Diogelwch) er mwyn bodloni anghenion pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae gennym amrywiaeth amrywiol o waith achos, cefnogaeth unigol, ymroddedig a rheolaidd gan uwch reolwyr ochr yn ochr â chyfleoedd dilyniant i'r ymgeiswyr llwyddiannus.Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae'n ymrwymedig i ddod yn 'Ddinas sy'n Dda i Blant' sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau.Rhieni sy'n cael y dylanwad mwyaf ar blant a'u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni'r canlyniadau gorau pan gânt eu cynorthwyo i dyfu a llwyddo o fewn eu teuluoedd eu hunain. Y gred hon arweiniodd at ddefnyddio'r dull 'Ffocws ar y Teulu', sy'n ystyried y teulu cyfan ac yn cydlynu cymorth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, wedi'i deilwra i anghenion a chryfderau pob teulu.
#J-18808-Ljbffr